PERSPECTIF STEM GOGLEDD | THE STEM GOGLEDD PERSPECTIVE
I nodi #DiwrnodRhyngwladolMerched ym mis Mawrth, dyma fewn olwg ar beth mae ein Mentor STEM, Sara Wilkinson yn feddwl am y niferoedd ferched mewn STEM. Mae Sara yn Mentora bobl ifanc mewn addysg uwchradd yn ardal Conwy, ac wedi trefnu gweithgareddau ac ymweliadau â chyflogwyr er mwyn ennyn eu diddordeb mewn pynciau STEM.
“Yn ddiweddar, cynhaliwyd digwyddiad merched yn y maes adeiladu: Fe wnaeth merched Blwyddyn 9 Ysgolion Ynys Môn fynychu bore o weithgaredd gyda chyflogwyr a merched sy’n fodelau rôl o blith cyflogwyr lleol, yn cynnwys Griffiths Construction a Read Construction. Cafodd y disgyblion fynd ar ymweliad safle yn y prynhawn i ddysgu am wahanol swyddi yn y maes.
O ran merched mewn STEM, dwi’n credu tra bod merched yn dod yn fwy a mwy amlwg mewn Meddygaeth, y Gyfraith a Busnes, mae llai o gydbwysedd o ran y niferoedd o Wyddonwyr a Pheirianwyr.
Credaf fod nifer o ffactorau sy’n dal i rwystro merched rhag dod yn eu blaenau mewn STEM, gan gynnwys stereoteips, tuedd o ran rhywedd, ac mewn rhai achosion, yr hinsawdd sy’n cael ei sefydlu o fewn adrannau peirianneg a gwyddoniaeth yn dilyn addysg orfodol. Mae STEM Gogledd yn ceisio chwalu rhai o’r rhwystrau hyn ac ysbrydoli’r merched sy’n cymryd rhan i ddilyn llwybrau gyrfa sy’n cael eu dilyn gan ddynion yn bennaf, trwy sesiynau blasu a chael rhyngweithio gyda chyflogwyr.”
“Mae STEM Gogledd yn ceisio chwalu rhai o’r rhwystrau hyn ac ysbrydoli’r merched”
Sara Wilkinson

To celebrate #InternationalWomensDay in March, we have asked one of our STEM Mentors, Sara Wilkinson what her opinion is on the number of women in STEM. Sara mentors young women in secondary education in the Conwy area, and has organised numerous activities and employer visits to ignite an interest in STEM subjects.
“We have held a girls in construction event: Year 9 girls attended an activity morning with employers and female role models from local employers including Griffiths Construction and Read Construction visited. Our pupils also experienced a site visit in the afternoon and learnt about various job roles.
While Women are becoming increasingly prominent in medicine, Law and Business, there is less of a balance in terms of numbers of Scientists and Engineers.
I believe there are a number of factors that continue to block women’s progress in STEM, including stereotypes. Gender bias and in some cases, the climate set within engineering and science departments post compulsory education. STEM Gogledd is striving to break down some of these barriers and inspire the female participants to pursue male dominated career paths through taster sessions and employer interactions.”
“STEM Gogledd is striving to break down some of these barriers….”
Sara Wilkinson