Featured

Croeso | Welcome

CROESO I BROSIECT STEM GOGLEDD

WELCOME TO THE STEM GOGLEDD PROJECT

Beth yw STEM Gogledd? | What is STEM Gogledd?

Prosiect newydd yw STEM Gogledd, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Nod y prosiect yw i ysbrydoli, hyrwyddo a chefnogi addysg STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) yng Ngwynedd, Môn a Chonwy.

STEM Gogledd is a new project, part funded by the European Social Fund through the Welsh Government. The aim of the project is to inspire, promote and support STEM education (Science, Technology, Engineering and Maths) in Gwynedd, Anglesey and Conwy.

Mae STEM Gogledd yn cynnig cyfleoedd cyffrous i ddisgyblion ysgolion uwchradd Gwynedd, Môn a Chonwy. Mae ‘na gyfleoedd STEM arbennig sydd ar gael yn y Gogledd! Yda chi’n gwybod be sy’n mynd mlaen yn eich ardal chi? Pa swyddi sydd ‘na? Oes na gyfle i chi?

Mae Mentoriaid STEM allan yn eich ardal chi! Bydd y Mentoriaid STEM yn trefnu sesiynau arbennig gyda gweithleoedd lleol, darparu gweithdai gyrfaoedd, trefnu clybiau STEM a rhedeg bob math o sesiynau STEM difyr yn eich ysgol chi.

Byddwch hefyd yn cael mynediad i Hwb STEM Gogledd – https://stemgogledd.cymru Eich lle chi ydi’r Hwb i ddysgu am bopeth sy’n gysylltiedig â STEM! Y newyddion diweddaraf am STEM – gwybodaeth gyrfaoedd, cystadleuthau, cyfleoedd profiad gwaith, cyrsiau a phrentisiaethau newydd yn y maes – mae’r cyfan ar yr Hwb!

STEM Gogledd offers exciting opportunities for secondary school pupils across Gwynedd, Anglesey and Conwy. There are fantastic STEM opportunities available in North Wales! Do you know what’s going on in your area? What careers are there? Is there an opportunity for you?

STEM Mentors are out in your local area! The STEM Mentors will organise special sessions with local workplaces, provide careers workshops, organise STEM clubs and run all kinds of fun STEM sessions at your school.

You will also have access to the STEM Gogledd Hub https://stemgogledd.cymru. The Hub is your space to learn all about STEM! The Hub is also a great place to see all the latest STEM news – whether its careers info, competitions, work experience opportunities, new courses and apprenticeships in your area.

Cynllun Arloesol yn newid trywydd | Innovative project changes direction

Mae cynllun sydd wedi ei ddatblygu i ysbrydoli ac i roi blas i ddisgyblion ar faes STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathamateg) wedi newid trywydd o ganlyniad i’r sefyllfa ynghylch y Coronafeirws.

Mae STEM Gogledd yn brosiect a ariennir yn rhannol gan gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Mae’r prosiect yn cynnig cyfleoedd cyffrous i ddisgyblion 11-19 oed ar draws Gwynedd, Ynys Môn a Conwy i ddysgu mwy am STEM, eu hysbrydoli a’u hannog i ystyried pwysigrwydd pynciau STEM a’u perthnasedd i yrfaoedd posib yn y dyfodol.

Nod y Prosiect hefyd yw helpu ysgolion i lywio trwy’r holl Weithgareddau Allgyrsiol STEM ac i’w galluogi i fanteisio’n llawn ar yr hyn sydd ar gael.

Ymysg buddiannau’r prosiect bydd disgyblion ar draws y tair sir yn derbyn cefnogaeth 1-1 gan dîm ymroddedig o Fentoriaid STEM yn ogystal â chael Mynediad i borth ar-lein, Hwb STEM ar gyfer canfod gwybodaeth am bopeth STEM.

O ganlyniad i’r Coronafeirws ac ysgolion wedi cau, mae’r Tîm sy’n gyfrifol am y cynllun wedi mynd ati i ailfeddwl sut mae modd ymgysylltu a disgyblion mewn ffyrdd amgen a cheisio parhau i ysbrydoli ac annog.

Dywedodd Rheolwr Rhanbarthol STEM Gogledd, Dyfed Jones:

“Wrth wynebu’r her nad ydi disgyblion yn yr ysgol er mwyn gallu derbyn cefnogaeth fe aethom ni ati i edrych ar sut y buasem ni’n gallu cadw y gwasanaeth mewn lle ond gweithredu mewn ffurf wahanol.”

Mae’r tîm wedi cadw mewn cyswllt efo’r disgyblion oedd yn derbyn cefnogaeth ac wedi mynd ati i lunio cyfres o wythnosau gweithgaredd diddorol sy’n seiliedig ar STEM ac ar sectorau allweddol y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yma yng Ngogledd Cymru.

Dywedodd David Roberts, Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru:

“Mae gwneud yn siŵr fod y sgiliau STEM addas gennym ni yma yng Ngogledd Cymru yn hollbwysig. Mae hi’n wych gweld STEM Gogledd yn addasu eu cynnig ac yn defnyddio’r Sectorau Allweddol i fframio hynny yng nghyd destun STEM.”

Meddai Tanya Jones, un o’r tri mentor STEM:

“Mi ydym ni fel Mentoriaid STEM  wedi ceisio ail-greu elfennau o’r gefnogaeth oedd yn cael ei gynnig drwy ddefnyddio dulliau rhithiol ac hefyd drwy wneud defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol i rannu negeseuon a lincs defnyddiol ar HWB STEM Gogledd stemgogledd.cymru  ma na waith gwych yn mynd ymlaen i ddangos bo ni dal yma!”

Yn ôl y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Cadeirydd Bwrdd uchelgais Economaidd Gogledd Cymru:

“Mewn cyfnod mor heriol mae hi’n bwysicach fyth fod cefnogaeth tebyg i STEM Gogledd yn parhau er mwyn galluogi dyfodol llewyrchus i economi Gogledd Cymru.”

Mae STEM Gogledd yn derbyn cefnogaeth gan Awdurdodau Lleol Gwynedd, Ynys Môn a Conwy yn ogystal â Magnox a’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear. Ar hyn o bryd mae disgwyl i’r Prosiect redeg tan Hydref 2022.

Am fwy o wybodaeth ynghylch STEM Gogledd, cysylltwch gyda Dyfed Jones, Rheolwr Rhanbarthol STEM Gogledd ar 07717786572 neu drwy e bost dyfedwynjones@gwynedd.llyw.cymru

A scheme that has been developed to inspire and give pupils a taste of the field of STEM (Science, Technology, Engineering and Maths) has changed direction as a result of the situation regarding Coronavirus.

STEM Gogledd is a project partly funded by the European Social Fund through the Welsh Government, which offers exciting opportunities for 11-19 year olds across Gwynedd, Anglesey and Conwy to learn more about STEM, inspire them and encourage them to think the importance of STEM subjects and their relevance to potential future careers.

The Project also aims to help schools navigate through a wealth of STEM Extracurricular Activities and to enable them to take full advantage of what’s available.

Benefits of the project include pupils across the 3 counties receiving 1-1 support from a dedicated team of STEM Mentors as well as accessing an online portal, STEM Hub for finding out everything STEM.

As a result of Coronavirus and school closures, the Team responsible for the scheme has set about rethinking how to engage with pupils in alternative ways and seek to continue to inspire and encourage.

STEM Gogledd Regional Manager Dyfed Jones said:

“When faced with the challenge of pupils not being at school in order to receive support we looked at how we could keep the service in place but operate in a different format.”

The team has kept in touch with the pupils receiving support and has devised a series of interesting activity weeks based on STEM and the key sectors of the Regional Skills Partnership here in North Wales.

David Roberts, Chair of the North Wales Regional Skills Partnership, said:

“Making sure we have the right STEM skills here in North Wales is vital. It’s great to see STEM Gogledd adapt their offerings and use the Key Sectors to frame that in the context of STEM.”

Tanya Jones, one of the three STEM mentors, said:

“We as STEM Mentors have worked  to recreate elements of the support we offered through using a variety of virtual methods and also by using social media to share useful messages and links through the STEM Gogledd Hub stemgogledd.cymru  ”

According to Councillor Dyfrig Siencyn, Chair of the North Wales Economic Ambition Board:

“In such challenging times it is even more important that support similar to STEM Gogledd continues to enable a prosperous future for the North Wales economy.”

STEM Gogledd is supported by Gwynedd, Anglesey and Conwy Local Authorities as well as Magnox and the Nuclear Decommissioning Authority. The Project is currently scheduled to run until October 2022.

For more information about STEM Gogledd, contact Dyfed Jones, Regional Manager, STEM Gogledd on 07717786572 or by email dyfedwynjones@gwynedd.llyw.cymru

Diwrnod Rhyngwladol Merched 2020 | International Women’s Day 2020

PERSPECTIF STEM GOGLEDD | THE STEM GOGLEDD PERSPECTIVE

I nodi #DiwrnodRhyngwladolMerched ym mis Mawrth, dyma fewn olwg ar beth mae ein Mentor STEM, Sara Wilkinson yn feddwl am y niferoedd ferched mewn STEM. Mae Sara yn Mentora bobl ifanc mewn addysg uwchradd yn ardal Conwy, ac wedi trefnu gweithgareddau ac ymweliadau â chyflogwyr er mwyn ennyn eu diddordeb mewn pynciau STEM.

 “Yn ddiweddar, cynhaliwyd digwyddiad merched yn y maes adeiladu: Fe wnaeth merched Blwyddyn 9 Ysgolion Ynys Môn fynychu bore o weithgaredd gyda chyflogwyr a merched sy’n fodelau rôl o blith cyflogwyr lleol, yn cynnwys Griffiths Construction a Read Construction. Cafodd y disgyblion fynd ar ymweliad safle yn y prynhawn i ddysgu am wahanol swyddi yn y maes.

O ran merched mewn STEM, dwi’n credu tra bod merched yn dod yn fwy a mwy amlwg mewn Meddygaeth, y Gyfraith a Busnes, mae llai o gydbwysedd o ran y niferoedd o Wyddonwyr a Pheirianwyr.

Credaf fod nifer o ffactorau sy’n dal i rwystro merched rhag dod yn eu blaenau mewn STEM, gan gynnwys stereoteips, tuedd o ran rhywedd, ac mewn rhai achosion, yr hinsawdd sy’n cael ei sefydlu o fewn adrannau peirianneg a gwyddoniaeth yn dilyn addysg orfodol. Mae STEM Gogledd yn ceisio chwalu rhai o’r rhwystrau hyn ac ysbrydoli’r merched sy’n cymryd rhan i ddilyn llwybrau gyrfa sy’n cael eu dilyn gan ddynion yn bennaf, trwy sesiynau blasu a chael rhyngweithio gyda chyflogwyr.”

Mae STEM Gogledd yn ceisio chwalu rhai o’r rhwystrau hyn ac ysbrydoli’r merched”

Sara Wilkinson
Sara Wilkinson, Mentor STEM Gogledd Mentor

To celebrate #InternationalWomensDay in March, we have asked one of our STEM Mentors, Sara Wilkinson what her opinion is on the number of women in STEM. Sara mentors young women in secondary education in the Conwy area, and has organised numerous activities and employer visits to ignite an interest in STEM subjects.

“We have held a girls in construction event: Year 9 girls attended an activity morning with employers and female role models from local employers including Griffiths Construction and Read Construction visited. Our pupils also experienced a site visit in the afternoon and learnt about various job roles.

While Women are becoming increasingly prominent in medicine, Law and Business, there is less of a balance in terms of numbers of Scientists and Engineers.

I believe there are a number of factors that continue to block women’s progress in STEM, including stereotypes. Gender bias and in some cases, the climate set within engineering and science departments post compulsory education. STEM Gogledd is striving to break down some of these barriers and inspire the female participants to pursue male dominated career paths through taster sessions and employer interactions.”

STEM Gogledd is striving to break down some of these barriers….”

Sara Wilkinson

Lansiad STEM Gogledd | STEM Gogledd Launch

Daeth ymhell dros gant o westeion i adeilad trawiadol M-Sparc yn Gaerwen yn ddiweddar i lansio prosiect STEM Gogledd.

Mae STEM Gogledd yn brosiect sy’n cael ei ariannu yn rhannol gan gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, yn cynnig cyfleoedd cyffrous i ddisgyblion 11-19 oed ar draws Gwynedd, Ynys Môn a Conwy ddysgu mwy am STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg). Mae’n anelu i’w hysbrydoli a’u hannog i ystyried pwysigrwydd pynciau STEM a’u perthnasedd i yrfaoedd posib yn y dyfodol.

Ymysg buddiannau’r prosiect bydd disgyblion ar draws y tair sir yn derbyn cefnogaeth un i un gan dîm ymroddedig o Fentoriaid STEM yn ogystal â chael mynediad i borth ar-lein, Hwb STEM ar gyfer canfod gwybodaeth am bopeth STEM.

Mae’r prosiect hefyd yn ceisio helpu ysgolion i lywio trwy’r holl Weithgareddau Allgyrsiol STEM ac i’w galluogi i fanteisio’n llawn ar yr hyn sydd ar gael.

Anerchwyd y Digwyddiad gan Kirsty Williams AC, Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru a Gwen Parry Jones, Prif Swyddog Gweithredol Magnox.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: “Roeddwn yn falch iawn o lansio’r prosiect STEM Gogledd, a fydd yn rhoi cefnogaeth ychwanegol i hyd at 600 o bobl ifanc o Ogledd Cymru a’u hysbrydoli i ddilyn gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.

“Mae’n arbennig o bwysig ein bod yn cynyddu nifer y merched sy’n mynd i yrfaoedd sy’n gysylltiedig â STEM, er mwyn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar ein diwydiannau allweddol nawr ac i’r dyfodol.”

Ategodd Gwen Parry Jones sylwadau’r Gweinidog wrth dynnu sylw at yr angen i fwy o ferched fynd i mewn i Beirianneg a thechnoleg yn y sector Niwclear yn benodol.

Meddai Rheolwr Rhanbarthol STEM Gogledd, Dyfed Jones: “Mae gwaith eisoes wedi cychwyn mewn rhai ysgolion ac mae’r adborth hyd yma wedi bod yn bositif iawn ac rydym yn edrych ymlaen at fynd allan i bob ysgol maes o law.”

Mae STEM yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Gwynedd, Cyngor Ynys Môn a Chyngor Conwy yn ogystal â Magnox a’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear. Ar hyn o bryd mae disgwyl i’r Prosiect redeg tan Hydref 2022.

Am fwy o wybodaeth am brosiect STEM Gogledd, ewch i www.stemgogledd.cymru

Lansiad STEM Gogledd yn M-Sparc, Gaerwen. | STEM Gogledd launch at M-Sparc, Gaerwen.

The impressive M-Sparc building in Gaerwen recently hosted well over a hundred guests to launch the new STEM Gogledd project.

STEM Gogledd is a project part funded by the European Social fund through the Welsh Government, offering exciting opportunities for pupils aged 11-19 across Gwynedd, Ynys Môn and Conwy to learn more about STEM (Science, Technology, Engineering and Mathematics). It also aims to inspire and encourage young people to consider the importance of STEM subjects and their relevance to potential future careers.

Among the benefits of this brand new project, pupils across the three counties will receive one to one support from a dedicated team of STEM Mentors as well as having access to an online portal, Hwb STEM Gogledd for all things STEM.

The project also aims to help schools in navigating through all the extra-curricular STEM activities out there to enable them to take full advantage of what’s on offer.

The event was addressed by Kirsty Williams AM, the Welsh Government’s Education Minister and Gwen Parry Jones, CEO of Magnox.

The Education Minister, Kirsty Williams, said: “I was really pleased to launch the STEM Gogledd project, which will give up to 600 young people from North Wales additional support and inspire them to pursue careers in science, technology, engineering and mathematics.

“It’s especially important we increase the number of girls who go into STEM-related careers, to give our key industries the skills they need now and into the future.”

Gwen Parry Jones reiterated the Minister’s comments in highlighting the need for more girls to enter Engineering and technology within the Nuclear sector in particular.

STEM Gogledd Regional Manager, Dyfed Jones added: “Work has already started in some schools and the feedback thus far has been extremely positive and we’re looking forward to getting out to all schools in due course.”

STEM Gogledd receives support from Gwynedd Council, Anglesey Council and Conwy Council as well as Magnox and the Nuclear Decommissioning Authority’s Socio Economic Scheme. The project is currently scheduled to run until October 2022.

For more details about STEM Gogledd, visit www.stemgogledd.cymru

‘Pobl Ifanc Arloesol’ – Mehefin, 2019 | ‘Innovative Young People’ – June, 2019

Digwyddiad ‘Pobl Ifanc Arloesol’ yn M-Sparc, Ynys Môn – Mehefin 2019.
‘Innovative Young People’ event at M-Sparc, Anglesey – June 2019.

Cafwyd digwyddiad arbennig ym mis Mehefin yn M-Sparc, y tro hwn yn dathlu Gŵyl Arloesi Cymru 2019 – ‘Pobl Ifanc Arloesol’. Gwahoddwyd grwpiau o ddisgyblion o Ysgolion Uwchradd Môn a Gwynedd i fynychu, a chawsom dros ugain o gyflogwyr a mudiadau lleol i Ogledd Cymru ar stondinau arloesi ledled y safle. Gosodwyd her i’r disgyblion, sef i wario ugain munud ar bob stondin yn dyfeisio teclyn neu syniad arloesol gyda’r stondinwyr, a chael cyfle i ddysgu am eu gwaith cyn symud ymlaen at stondin arall. Roedd y diwrnod yn hynod o lwyddiannus, gyda’r disgyblion yn adborth yn ôl i dîm STEM Gogledd yn niweddarach ar eu mwynhad ac am yr hyn a ddysgwyd ar y diwrnod.

Rydym yn edrych ymlaen at gynnal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol, gan gynnig lle i bob ysgol yn siroedd Gwynedd, Môn a Chonwy. Bydd hyn yn gyfle gwych i ddysgu am y sefydliadau a chyflogwyr sydd wedi eu lleoli yng Ngogledd Cymru, er mwyn dangos i bobl ifanc beth sydd ar gael yma o ran cyfleoedd STEM.

______________________________

An event was held at M-Sparc in June this year, this time to celebrate Wales Festival of Innovation 2019 – ‘Innovative Young People’. Groups of pupils were invited from secondary schools in Anglesey and Gwynedd to take part, and over 20 employers and organisations from across North Wales were places on stalls across the site. A challenge was set for all groups of pupils, which was to spend 20 minutes on each stall with employers to innovate a product or idea, and was given time to learn more about the employer and their work. The day was hugely successful and the pupils’ feedback of the event was share with STEM Gogledd in order to understand what they would like to gain from a similar event.

We look forward to hosting a similar event in the near future, and would like to invite many more schools within the counties of Gwynedd, Anglesey and Conwy to take part. This will be a great opportunity to learn more about organisations and employers based in North Wales, and to show young people what is on offer here in terms of STEM opportunities.

Disgyblion Ysgol Uwchradd Bodedern yn gosod offer Minesto (cynhyrchwyr egni llanw ar Ynys Môn).
Ysgol Uwchradd Bodedern assembling equipment with Minesto (tidal energy producers on Anglesey).
Disgyblion yn dysgu mwy am wasanaeth Fferylliaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Pupils learning more about Betsi Cadwaladr Health Board’s Pharmacy service.
Cwmni MWT – Peiriannwyr Sifil yn trafod eu gwaith gyda’r bobl ifanc.
MWT – Civil Engineers discussing their work with the young people.
Arloesi drwy Code – disgyblion yn gweithio gyda code ar stondin Prifysgol Bangor.
Innovation through Code – pupils working with code at Bangor University’s stall.
Mwy o weithgareddau difyr ar y stondinau.
More fun activities on the stalls.
Tîm STEM Gogledd yn y digwyddiad.
The STEM Gogledd team at the event.

Cyflwyniad ac Adborth – ein sesiwn gyda Ysgol Gyfun Llangefni | Introduction and Feedback – our session with Ysgol Gyfun Llangefni

*Scroll down for English*

“Roedd yn brofiad gwych cael gweld sut mae STEM ym mhobman yn ein bywyd, mewn meusydd gwahanol. Roedd o’n agoriad llygad i weld sut effaith bydd STEM yn cael ar ein dyfodol.”

Disgybl Bl. 9, Ysgol Gyfun Llangefni.

Mae’r ysgol bellach wedi dechrau’n ôl tymor yma, ac mae criw STEM Gogledd wedi dechrau ar eu gwaith o gwmpas rhai ysgolion Uwchradd Gwynedd, Môn a Chonwy.

Nod STEM Gogledd yw ysbrydoli, hyrwyddo a chefnogi addysg STEM i bobl ifanc rhwng 11-19 oed drwy gynnig cyfleoedd arbennig iddynt a dangos perthnasedd y pynciau hyn o fewn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Yn niweddarach y flwyddyn yma, cynhaliwyd sesiwn treialu gyda chriw o flwyddyn 9 Ysgol Gyfun Llangefni yng Nghanolfan Wyddoniaeth Menai, M-Sparc, Ynys Môn. Yma cafwyd sesiwn o hanner diwrnod o weithio gyda’r Hwb STEM Gogledd, a rhoddwyd adborth defnyddiol yn ôl i’r tîm. Cafwyd ambell i weithgaredd difyr gyda’r Mentoriaid STEM hefyd, ymhle gofynnwyd i’r bobl ifanc feddwl am ba swyddi oedd yn berthnasol i STEM a cheisio creu broga bychan allan o bapur – enghraifft dda o sut mae STEM yn perthyn i nifer o elfennau o’n bywydau.

“Profiad gwych yn cael rhannu syniadau er mwyn gwneud y wefan newydd mor ddefnyddiol a phosib. Mwynheais cael arbrofi’r wefan hefyd.”

Disgybl Bl. 9, Ysgol Gyfun Llangefni.

_________________________

“It was a great experience seeing how STEM is everywhere in our lives, in different areas. It was an eye-opener to the effects STEM will have on our future.”

Year 9 pupil, Ysgol Gyfun Llangefni.

Schools have now started the new term, and the STEM Gogledd team have begun their work in schools across Gwynedd, Anglesey and Conwy.

STEM Gogledd’s aim is to inspire, promote and support STEM education for young people aged between 11-19 by offering valuable opportunities and show the relevance of their studies to their possible future careers.

Earlier this year STEM Gogledd held a trialing session with Year 9 pupils from Ysgol Gyfun Llangefni at Menai Science Park, M-Sparc, Anglesey. The half-day session was spent trialling the new STEM Gogledd Hub and valuable feedback was provided by the pupils. There were a couple of interesting activities for the pupils with the STEM Mentors also, where they were asked what types of jobs were associated with STEM and were asked to create a small frog using origami paper – another example of how STEM skills relate to almost all aspects of life.

“It was a great experience sharing ideas about the new website to make it as useful as possible. I really enjoyed trialling the site also.”

Year 9 pupil, Ysgol Gyfun Llangefni.
Mentoriaid STEM Gogledd yn cyflwyno i’r grŵp.
STEM Gogledd Mentors presenting to the group.
Cyflwyno’r Hwb i’r disgyblion.
Introducing the Hub to the pupils.
Disgyblion Ysgol Gyfun Llangefni gyda’u tystysgrifau STEM Gogledd.
Ysgol Gyfun Llangefni with their STEM Gogledd certificates.
Ariennir prosiect STEM Gogledd yn rhannol drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. | STEM Gogledd is part funded by the European Social Fund through the Welsh Government. 

Design a site like this with WordPress.com
Get started